Better News Network

Teyrnged i ddyn fu farw yn ystod Triathlon Abertawe

Disgrifiad or llun,
Dywedodd teulu Andrew Ireland ei fod yn weithiwr elusen ar ran pobl ddigartref
Mae teulu dyn fu farw yn ystod Triathlon Abertawe ddydd Sul wedi rhoi teyrnged i "r, tad a thaid cariadus".
Bu farw Andrew Ireland, 61, tra'n nofio yn ystod y ras, er i wasanaethau brys geisio ei helpu.
Mewn datganiad dywedodd Activity Wales Events, trefnwyr y digwyddiad, fod teulu Mr Ireland wedi gofyn iddyn nhw gyhoeddi teyrnged ar eu rhan.
"Fel teulu, rydym wedi torri ein calonnau ond yn cael cysur o'r holl negeseuon o gydymdeimlad a chefnogaeth rydyn ni wedi ei gael," meddai'r neges.
"Roedd Andrew yn weithiwr elusen ar ran pobl ddigartref, ac yn gefnogwr brwd o bl-droed Cymru.
"Roedd yn feiciwr brwd ac yn hoffi cymryd rhan mewn triathlon, yn aelod o'r Tondu Wheelers ac yn rhedeg
parkrun
yn gyson.
"Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys, trefnwyr y digwyddiad, gwirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd wnaeth roi cymorth ar y pryd."
Fe wnaeth Heddlu'r De gadarnhau mewn datganiad ddydd Llun fod person wedi marw yn ystod y triathlon, gan ddweud bod eu "meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn."
Roedden nhw, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Sant Ioan, a gwirfoddolwyr ymhlith y rhai a geisiodd helpu ddydd Sul.

Wednesday, May 31, 2023 at 2:01 pm

Full Coverage